Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Iau, 6 Mehefin 2013

 

 

 

Amser:

14:00 - 17:10

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
<insert link here>

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Darren Millar (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Mike Hedges

Julie Morgan

Jenny Rathbone

Aled Roberts

Jocelyn Davies

Sandy Mewies

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Dr Jean White, Llywodraeth Cymru

Val Whiting, Llywodraeth Cymru

Maureen Howell, Head of Lifestyle Change Branch

Piers Bisson, Public Service Reform Division

June Milligan, Llywodraeth Cymru

Abigail Harris, Director of Strategy and Policy

Owen Evans, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru

Melanie Godfrey, Programme Director 21st Century Schools

Sonia Reynolds, Deputy Director, Transformation Programme Division

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Tom Jackson (Clerc)

Daniel Collier (Dirprwy Glerc)

 

 

 

<AI1>

1    Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

 

</AI1>

<AI2>

2    Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai'

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru; Maureen Howell, Pennaeth y Gangen Newid Ffyrdd o Fyw, Llywodraeth Cymru; a Val Whiting, Pennaeth yr Is-adran Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau, Llywodraeth Cymru, i'r cyfarfod.

 

2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Dadansoddiad cost a budd o bob opsiwn ar gyfer y strwythur TG arfaethedig a fydd yn sail i'r swyddogaeth arlwyo mewn ysbytai;

·         Manylion am ganran yr aelodau o staff nyrsio Band 5 ar draws yr holl fyrddau iechyd sy'n methu â chael mynediad i gyfleusterau e-ddysgu gan nad oes ganddynt fynediad i gyfrifon e-bost gwaith;

·         Costau sy'n gysylltiedig â rhoi'r pecyn e-ddysgu ynghylch maeth cleifion ar waith;

·         Rhagor o fanylion ynghylch lefel y cyfranogiad mewn pecynnau hyfforddi ar-lein yn y GIG;

·         Rhagor o wybodaeth ynghylch i lle mae gwastraff bwyd yn mynd, gan gynnwys manylion am y contractau gwastraff rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol; a

·         Nodyn yn esbonio'r mesurau a roddwyd ar waith gan fyrddau iechyd i ateb y gofynion a bennwyd gan y Bil Sgorio Hylendid Bwyd.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog yn nodi'r pryderon a godwyd yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

 

</AI2>

<AI3>

3    Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru; Piers Bisson, Pennaeth yr Is-adran Diwygio'r Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru; ac Abigail Harris, Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Ffigurau sy'n dangos sut mae sgiliau rheoli cyllid yn y gwasanaeth cyhoeddus wedi gwella;

·         Eglurhad o gostau a buddion y gwaith a wnaed ar y cyd gan fentrau megis y Grŵp Cyflawni Diwygio; Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus; Cyngor Partneriaeth; Academi; a'r Comisiwn newydd ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus;

·         Nodyn ynghylch y defnydd o systemau darbodus o fewn Llywodraeth Cymru;

·         Enghreifftiau o achosion lle mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido ymgynghorwyr i adolygu mentrau'r system ddarbodus sydd heb gael eu gweithredu;

·         Rhagor o fanylion ynghylch sut y bydd arfer da yn y sectorau iechyd a chymdeithasol yn cael ei rhannu ar draws awdurdodau lleol.

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog yn nodi'r pryderon a gododd y Pwyllgor yn y cyfarfod hwn.

 

 

</AI3>

<AI4>

4    Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y trydydd Cynulliad ar 'Fuddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion'

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru; Melanie Godfrey, Cyfarwyddwr y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif, Llywodraeth Cymru; a Sonia Reynolds, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Rhaglen Trawsnewid.

 

4.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Dadansoddiad o'r nifer o ysgolion ym mhob categori a nodwyd gan arolwg stoc Llywodraeth Cymru yn 2009, gan gynnwys rhestr o'r ysgolion hynny ym Mand D.

 

4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog yn nodi'r pryderon a gododd yr Aelodau yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

</AI4>

<AI5>

5    Papurau i'w nodi

5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod diwethaf a'r rhaglen waith ar gyfer tymor haf 2013.

 

 

</AI5>

<AI6>

6    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

 

</AI6>

<AI7>

7    Ystyried y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am weithredu'r argymhellion yn adroddiadau'r Pwyllgor

7.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr adroddiadau 'Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai'; 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'; a 'Buddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion'.

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidogion perthnasol yn nodi'r prif bryderon ac argymhellion.

 

 

</AI7>

<AI8>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>